Skip to Main Content

Gyfeirnodi Harvard

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio Harvard ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau.
This guide is available in English

Gan gynnwys ffynonellau yn eich gwaith

Mae sawl ffordd o gynnwys ffynonellau yn eich gwaith.  Gallwch grynhoi, aralleirio neu ddyfynnu gwybodaeth yn uniongyrchol. Pa un bynnag a
ddefnyddiwch, rydych yn rhoi gwybod i’ch darllenydd drwy osod y manylion cyfeirnodi mewn ffyrdd cynnil wahanol, fel y gwelir isod.

  • Crynhoi - os ydych yn crynhoi dadl neu safbwynt cyffredinol llyfr neu erthygl dim ond nodi enw’r awdur a’r flwyddyn cyhoeddi sydd ei angen. Nid oes angen nodi rhifau tudalennau yn y testun na’r rhestr gyfeirnodi.
  • Aralleirio - os ydych yn aralleirio pwynt penodol o’ch ffynhonnell dylech gynnwys y rhifau tudalen yn eich testun, yn ogystal ag enw’r awdur a’r flwyddyn. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i’ch darllenydd ddod o hyd i’r wybodaeth y cyfeirir ati.
  •  Dyfyniad uniongyrchol - yn copïo darn byr neu hir o destun, gair am air, yn uniongyrchol o ffynhonnell i'ch gwaith.

Dyfyniadau uniongyrchol

 

 

 

 

 

Dyfyniad byr, hyd at ddwy neu dair llinell, mewn dyfynodau dwbl a’i gynnwys yng nghorff y testun.

Enghraifft o-fewn-testun:
Most people are biased in one way or another. Person bias, sometimes called the fundamental attribution error, is claimed to be the most common.

So we see a nurse, or a teacher or a policeman or policewoman
going about their business and tend to judge them as being particular
types of people rather than as people being constrained by the roles
that they are playing in their work (Strongman, 2006, p. 94).

Enghraifft gyfeirnodi:
Strongman, K. T. (2006) Applying psychology to everyday life: a beginner’s guide. Chichester: John Wiley and Sons Ltd.