Skip to Main Content

Gyfeirnodi Harvard

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio Harvard ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau.
This guide is available in English

Cyhoeddiadau Adrannau Llywodraeth

Trefn gyfeirnodi:
  1. Gwlad
  2. Enw’r adran lywodraeth
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwn)
  4. Teitl (mewn italig)
  5. Man cyhoeddi: Cyhoeddwr
  6. Cyfres (mewn cromfachau) – os yn berthnasol. Wrth gyfeirnodi fersiwn ar-lein, yn hytrach na Man cyhoeddi: Cyhoeddwr, rhowch:
  7. Available at: URL
  8. (Accessed: dyddiad)

Enghraifft o-fewn-testun:
The Government’s objective on achieving balanced economic growth is
outlined in its ambitious programme
(Department for Business, Innovation and Skills, 2011).

 

Enghraifft gyfeirnodi:
Department for Business, Innovation and Skills (2011)
Guide to BIS 2011-12 – working together for growth. Available at: http://www.bis.gov.uk/assets/biscore/corporate/doc/g/11- p120-guide-to-bis-2011-2012 (Accessed: 1 August 2011).

 

Achosion cyfreithiol

Trefn gyfeirnodi:
  1. Enwau’r partïon ynghlwm wrth yr achos (mewn italig) h.y. enw’r achos
  2. Dyddiad mewn cromfachau sgwâr, oni bai bod rhif cyfrol yn cael ei ddefnyddio, wedyn y dyddiad mewn cromfachau crwn
  3. Rhif cyfrol (os defnyddir un)
  4. Talfyriad o enw’r adroddiad a thudalen gyntaf yr adroddiad.
    NEU os ar-lein:Enw’r achos (mewn italig) [Blwyddyn] neu (Blwyddyn) Llys, a rhif achos.Cronfa ddata neu wefan (mewn italig)
    Available at: URL
    (Accessed: dyddiad).

Enghraifft o-fewn-testun:
The case of Abramova v Oxford Institute of Legal Practice
[2011] upheld…

Enghraifft gyfeirnodi:
Abramova v Oxford Institute of Legal Practice [2011] EWHC 613 (QB).

Enghraifft o-fewn-testun:
Re. C (1994) is a landmark case relating to mental capacity and refusal of medical treatment.

Enghraifft gyfeirnodi:
Re. C (1994) 1 All E.R. 819.

NEU os ar-lein:
Abramove v Oxford Institute of Legal Practice [2011] EWHC 613 (QB). BAILII. Available at: http://www.bailii.org/ew/ cases/EWHC/QB/2011/613.htm (Accessed: 21 June 2019).