Os hoffech gael canllaw mwy cynhwysfawr i gyfeirnodi, gweler yr e-Lyfr isod:
Dangos mewn aseiniadau eich bod wedi defnyddio deunydd na chrëwyd yn wreiddiol gennych chi yw cyfeirnodi. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ffeithiol, data, delweddau, barn, dyfyniadau uniongyrchol, neu pan fyddwch yn crynhoi neu’n aralleirio gwaith pobl eraill.
Mae’r rhan fwyaf o aseiniadau academaidd yn mesur eich gallu i ddeall, dadansoddi a gwerthuso gwaith pobl eraill. O ganlyniad, mae cyfeirnodi’n rhan anhepgor o’ch gwaith, gan ei fod yn rhoi gwybod i’r darllenydd pa destunau rydych wedi eu defnyddio yn ystod eich ymchwil; byddwch hefyd yn cael eich asesu ar ansawdd a pherthnasedd y ffynonellau hyn. Mae’n bwysig cofio bod cyfeirnodi’n cyfrif am ganran o’r marciau pan fo wedi ei wneud yn briodol.
Mae osgoi llên-ladrad yn agwedd bwysig ar uniondeb Academaidd. Llên-ladrad yw pan fydd person yn ceisio trosglwyddo gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith pobl eraill yn cael ei gydnabod a'i gyfeirio'n iawn.
Mae gan y Brifysgol dudalen gyda gwybodaeth ac Arweiniad ar gamymddwyn academaidd ac uniondeb academaidd, gan gynnwys gwybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da.