Skip to Main Content

Gyfeirnodi Harvard

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio Harvard ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau.
This guide is available in English

Sut i gyfeirio erthygl cyfnodolyn

Trefn gyfeirnodi:

  1. Awdur(on) (cyfenw neu enw teuluol cyn y llythrennau blaen)
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwn) 
  3. Teitl yr erthygl (mewn dyfynodau sengl)
  4. Teitl y cyfnodolyn (mewn italig – rhowch brif lythrennau ar gyfer pob gair yn y teitl heblaw am gysyllteiriau megis a, o, yr, ar gyfer)
  5. Gwybodaeth rhifyn h.y. cyfrol (heb gromfachau) a phan yn berthnasol rhif y rhan, y mis, neu’r tymor (i gyd mewn cromfachau crwn)
  6. Rhifau tudalennau

Enghraifft o-fewn-testun:
According to Fritsch and Schroeter (2011, p. 383) "recent empirical research strongly indicates that the effect of new business formation on
economic development is of a long-term nature".

Enghraifft gyfeirnodi:
Fritsch, M. and Schroeter, A. (2011) ‘Why does the effect of new business formation differ across regions?’, Small Business Economics: An Entrepreneurship Journal, 36(4), pp. 383-400.

 

 

 

 

Trefn gyfeirnodi:

  1. Awdur(on) (cyfenw neu enw teuluol cyn y llythrennau blaen)
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwn)
  3. Teitl yr erthygl (mewn dyfynodau sengl)
  4. Teitl y cyfnodolyn (mewn italig – prif lythyren ar gyfer llythyren gyntaf pob gair yn y teitl heblaw am gysyllteiriau megis a, o, yr, ar gyfer)
  5. Cyfrol (heb gromfachau) rhifyn (mewn cromfachau crwn) rhifau tudalennau os ydynt ar gael
  6. Available at: URL y casgliad (NEU doi)
  7. Cyrchwyd: dyddiad (mewn cromfachau crwn)

Enghraifft o-fewn-testun:
Langhammer and Stanghelle (2009, p. 46) found that “Stroke care has changed over the last 20 years”.

Enghraifft gyfeirnodi:
Langhammer, B. and Stanghelle, J.K. (2009) ‘Exercise on a treadmill or walking outdoors’, Clinical Rehabilitation, 24(1), pp. 46-54. Available at: http://cre.sagepub.com (Accessed: 15 July 2010).

Enghraifft gyda doi
Enghraifft gyfeirnodi: 
Oberg, C. (2019) ‘The role of business networks for innovation’, Journal of Innovation and Knowledge, 4(2), pp.124-128. Available at: doi:10.11016/j.jik.2017 .10.001 (Accessed: 19 June 2019).

Sylwer: Nid oes angen cynnwys elfennau megis teitl cronfa ddata neu gasgliad (ee, Llyfrgell Cochrane neu Sage Publications neu [Online] gyhyd ag y bod eich cyfeirnod yn galluogi’r darllenydd i ddod o hyd i’r erthygl.

 

Sut i gyfeirio erthygl papur newydd

 

Trefn gyfeirnodi:
Pan fo awdur yr erthygl bapur newydd yn wybyddus, defnyddiwch y drefn gyfeirnodi ganlynol:

  1. Awdur (cyfenw neu enw teuluol cyn y llythrennau blaen)
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwn)
  3. Teitl yr erthygl (mewn dyfynodau sengl)
  4. Teitl y papur newydd (mewn italig – rhowch brif lythrennau ar gyfer pob gair yn y teitl heblaw am gysyllteiriau megis a, o, yr, ar gyfer)
  5. Rhifyn os oes angen (mewn cromfachau crwn)
  6. Diwrnod a mis
  7. Cyfeirnod tudalen

Enghraifft o-fewn-testun:
Goldman accepted the largest fine in the commission’s history (Treanor, 2010).

Enghraifft gyfeirnodi:
Treanor, J. (2010) ‘Goldman Sachs handed record $550m fine over Abacus transaction’, The Guardian, 16 July, p. 25.

 

 

Trefn gyfeirnodi:

  1. Awdur (cyfenw neu enw teuluol cyn y llythrennau blaen)
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwn)
  3. Teitl yr erthygl (mewn dyfynodau sengl)
  4. Teitl y papur newydd (mewn italig – rhowch brif lythrennau ar gyfer pob gair yn y teitl heblaw am gysyllteiriau megis a, o, yr, ar gyfer)
  5. Diwrnod a mis
  6. Available at: URL (NEU doi os ar gael)
  7. Cyrchwyd: dyddiad (mewn cromfachau crwn)

Enghraifft o-fewn-testun:
Kingsley (2010) suggests that the slow-reading movement is made up
of a disparate bunch of academics and intellectuals who want us to take
ur time while reading and re-reading.

Enghraifft gyfeirnodi:
Kingsley, P. (2010) ‘The art of slow reading’, G2 section of
The Guardian, 15 July. Available at: http://guardian.co.uk/books/2010/jul/15/slow-reading (Accessed: 16 July 2010).

 

 

 

Trefn gyfeirnodi:

  1. Enw’r person y cyfwelwyd ag ef/hi
  2. Blwyddyn y cyfweliad (mewn cromfachau crwn)
  3. Teitl y cyfweliad (os oes un) (mewn dyfynodau sengl)
  4. Cyfweliad gan
  5. Enw’r cyfwelydd
  6. Teitl y Papur newydd/darllediad (mewn italig)
  7. Diwrnod a mis y cyfweliad
  8. Cyfeirnod tudalen
  9. Os cyhoeddwyd ar y rhyngrwyd ychwanegwch: Available at: URL NEU doi os ar gael
  10. Cyrchwyd: dyddiad (mewn cromfachau crwn)

Enghraifft o-fewn-testun:
Pullman (2011, p. 30) suggests he was cast in the
role “to destabilise viewers”.

Enghraifft gyfeirnodi:
Pullman, B. (2011) ‘Bill Pullman: Torchwood's surprising new villain’. Interview with Bill Pullman
and John Barrowman. Interviewed by
Catherine Gee for The Daily Telegraph, 14 July, p. 30.