Skip to Main Content

Gyfeirnodi Harvard

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio Harvard ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau.
This guide is available in English

Beth yw cyfeirnodi eilaidd?

Weithiau, bydd awduron yn cyfeirio at waith/syniadau pobl eraill. Gelwir y rhain yn gyfeirnodau eilaidd.  Er enghraifft, mae Parahoo yn 2006 yn cyfeirio at brofiadau McMahon yn 1994.  Dylid cynnwys manylion gwaith Parahoo yn y rhestr gyfeirnodi, gan mai hwn yw’r gwaith rydych wedi ei ddarllen.  (Peidiwch â gorddefnyddio cyfeiriadau eilaidd).

Enghraifft o-fewn-testun:
McMahon’s (1994) experience as cited in Parahoo (2006, p. 246) draws attention to the dilemma surrounding the issue of persuasion when attempting to recruit participants.

Enghraifft gyfeirnodi:
Parahoo, K. (2006) Nursing research: principles, process and issues. 2nd edn. Basingstoke: Palgrave Macmillan.