Skip to Main Content

Gyfeirnodi Harvard

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio Harvard ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau.
This guide is available in English

Beth yw cyfeirnodi?

Dangos mewn aseiniadau eich bod wedi defnyddio deunydd na chrëwyd yn wreiddiol gennych chi yw cyfeirnodi. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ffeithiol, data, delweddau, barn, dyfyniadau uniongyrchol, neu pan fyddwch yn crynhoi neu’n aralleirio gwaith pobl eraill.

Uniondeb Academaidd

Mae osgoi llên-ladrad yn agwedd bwysig ar uniondeb Academaidd. Llên-ladrad yw pan fydd person yn ceisio trosglwyddo gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith pobl eraill yn cael ei gydnabod a'i gyfeirio'n iawn. 

Mae gan y Brifysgol dudalen gyda gwybodaeth ac Arweiniad ar gamymddwyn academaidd ac uniondeb academaidd, gan gynnwys gwybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da.

Pam cyfeirnodi?

Mae’r rhan fwyaf o aseiniadau academaidd yn mesur eich gallu i ddeall, dadansoddi a gwerthuso gwaith pobl eraill. O ganlyniad, mae cyfeirnodi’n rhan anhepgor o’ch gwaith, gan ei fod yn rhoi gwybod i’r darllenydd pa destunau rydych wedi eu defnyddio yn ystod eich ymchwil; byddwch hefyd yn cael eich asesu ar ansawdd a pherthnasedd y ffynonellau hyn. Mae’n bwysig cofio bod cyfeirnodi’n cyfrif am ganran o’r marciau pan fo wedi ei wneud yn briodol. 

Beth yw Cyfeirnodi Harvard?

Cite them right

Os hoffech gael canllaw mwy cynhwysfawr i gyfeirnodi, gweler yr e-Lyfr isod:

Digwyddiadau

Myfyrwyr Parod ar gyfer y Dyfodol - Rhaglen digwyddiadau'r Llyfrgell

Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!