Skip to Main Content

Cyfeirnodi OSCOLA

This guide is also available in English

Trosolwg

There are three basic requirements for incorporating references into your work when using OSCOLA: 

  • Cyfeirnodi: wrth gydnabod ffynhonnell, rhowch farciwr troednodyn ar ôl yr atalnod llawn ar ddiwedd y frawddeg, neu ar ôl unrhyw atalnod arall, neu ar ôl y gair neu’r cymal mae’n berthnasol iddi neu iddo.
  • Troednodyn: wrth gyfeirio at gyhoeddiad am y tro cyntaf, rhowch gyfeirnod llawn i’r ffynhonnell ar waelod y dudalen. Gellir rhoi ‘Crybwylliad dilynol at ffynhonnell’ wedyn ar ffurf nodyn.
  • Llyfryddiaeth: rhowch Dabl ffynonellau gwreiddiol ar y dechrau a Llyfryddiaeth ffynonellau eilaidd ar ddiwedd eich gwaith.

Atalnodi

Mae atalnod llawn bob tro ar ddiwedd pob troednodyn.

Peidiwch â defnyddio atalnodau llawn ar ôl talfyriadau (QB nid Q.B. ar gyfer Queen’s Bench), nac ar ôl y ‘v’ rhwng dau barti.

O fewn troednodyn, os cyfeirir at fwy nag un ffynhonnell, gwahanwch nhw gyda hanner colon.

Troednodyn

Mae marciwr troednodyn yn rhediad parhaus o rifau ym mhrif gorff y testun sy’n cyfeirio’r darllenydd at ddilyniant rhifol o ffynonellau ar waelod yr un dudalen (troednodiadau).
Wrth gydnabod ffynhonnell, rhowch farciwr troednodyn ar ôl yr atalnod llawn ar ddiwedd y frawddeg, neu ar ôl unrhyw atalnod arall, neu ar ôl y gair neu’r cymal mae’n berthnasol iddi neu iddo.

Pinbwyntio

Defnyddiwch rifau pinbwyntio i gyfeirio’r darllenydd at dudalennau a pharagraffau penodol mewn ffynhonnell.

Defnyddiwch ‘pt’ ar gyfer part/rhan, ‘ch’ ar gyfer chapter/pennod, a ‘para’ ar gyfer paragraph/paragraff.

Mae rhifau tudalennau yn sefyll ar eu pennau eu hunain; h.y. nid oes angen i chi ddefnyddio ‘p’ ar gyfer page/tudalen na ‘pp’ ar gyfer pages/ tudalennau.

Mae gan bob math o ddogfen reolau gwahanol ar gyfer pinbwyntiau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr atalnodi yn yr enghreifftiau isod.
Pinbwyntio at adran mewn deddf

Shipping and Trading Interests (Protection) Act 1995, s 4.
Pinbwyntio at rif paragraff mewn achos
3 Callery v Gray [2001] EWCA Civ 1117, [2001] 1 WLR 2112 [42].
Pinbwyntio at dudalen o fewn achos
3 R v Leeds Country court, ex p Morris  [1990] QB 523 (QB) 530.
Pinbwyntio ar gyfer achosion gydag ibid ac n
31 Phipps v Boardman [1967] 2 AC 46 (HL).
32 Phipps (n 31) 124. OR ibid 124.
Pinbwyntio at dudalen mewn llyfr
12 Jonathan Herring, Medical Law and Ethics (4th edn, Oxford University Press 2012) 146.
Pinbwyntio at dudalen mewn erthygl 
13 JAG Griffith, 'The Common Law and the Political Constitution' (2001) 117 LQR 42, 64.
Pinbwyntio at erthygl o fewn deddfwriaeth yr UE 
15 Consolidated Version of the Treaty on European Union [2008] OJ  C115/13, art 8.

Dyfyniadau ailadroddus

Dyfyniad llawn:

1 Phelps v Hillington LBC [2001] 2 AC 619 (HL).

 

Dyfyniad dilynol yn syth ar ôl y dyfyniad llawn:

2 ibid.

________

Dyfyniad dilynol gan ddefnyddio ffurf fyrrach o enw achos a chroes-ddyfyniad i droednodyn 1 lle gellir dod o hyd i'r dyfyniad llawn:

10 Phelps (n 1).  

Dyfyniad llawn gydag enw'r statud a fersiwn fyrrach:

32 Human Rights Act 1998 (HRA).

 

Dyfyniad dilynol yn syth ar ôl y dyfyniad llawn:

32 ibid.

________

Dyfyniad dilynol gan ddefnyddio fersiwn fyrrach o'r statud:

40  HRA 1998, sch 1 pt 1.

Dyfyniad llawn:

1 J Knowles, Effective Legal Research (2nd edn, Sweet & Maxwell 2009).

 

Wrth gyfeirio at yr un ffynhonnell yn y troednodyn nesaf, gallwch ddefnyddio ibid, su’n golygu ‘yn yr un lle’, ynghyd â rhif y dudalen berthnasol. 

2 ibid 26.

________

Dyfyniadau dilynol gyda pinbwynt:

10 Knowles (n 1) 46.

Talfyriadau

Mae canllaw cynhwysfawr i dalfyriadau adrodd achosion cyfreithiol a theitlau cyfrolau ar gael yn y Cardiff Index to Legal Abbreviations.