Skip to Main Content

Cyfeirnodi OSCOLA

This guide is also available in English

Achosion yr UE wedi eu Hadrodd

Ers 1989, mae achosion yr UE wedi eu rhifo yn ôl a gawson nhw eu cofrestru yn Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) neu yn Llys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf (CFI) a rhoddir y rhagddodiad C- (achosion ECJ) neu T- (achosion CFI). Nid oes gan achosion cyn 1989 ragddodiad.

Pan yn bosibl, cyfeiriwch at yr adroddiadau swyddogol, European Court Reports (ECR). Adroddir achosion ECJ yng nghyfrol un (ECR I-) ac adroddir achosion CFI yng nghyfrol dau (ECR II-).


Os nad oes adroddiad ECR ar gael, cyfeirnodwch y Common Market Law Reports (CMLR). Mae rhai achosion hefyd yn cael eu hadrodd yn y Law Reports, y Weekly Law Reports a/neu’r All England Law Reports (European Cases).

Rhif yr achos | enw’r achos | [blwyddyn] | talfyriad yr adroddiad | tudalen gyntaf

Enghraifft
12 Case 240/83 Procureur de la République v ADBHU [1985] ECR 531.

Enghraifft yn y tabl o achosion
Case 240/83 Procureur de la République v ADBHU [1985] ECR 531

Achosion yr UE heb eu Hadrodd

Cyfeirnodwch yr hysbysiad o’r gyfres Official Journal (OJ) C 

Rhif achos | enw achos mewn llythrennau italig | [blwyddyn] | ECR | cyfrol- | tudalen gyntaf

Enghraifft
15 Case C-556/07 Commission v France [2009] OJ C102/8.

Enghraifft yn y tabl o achosion
Case C-556/07 Commission v France [2009] OJ C102/8


Os nad yw’r achos wedi ei adrodd yn yr OJ eto
Enw'r achos | (Rhif achos) | [blwyddyn] | ECR | cyfrol- | tudalen gynta

Enghraifft
48 Case T-227/08 Bayer Healthcare v OHMI-Uriach Aquilea OTC (CFI, 11 November 2009).

Enghraifft yn y tabl o achosion
Case T-227/08 Bayer Healthcare v OHMI-Uriach Aquilea OTC (CFI, 11 November 2009)

Barn Adfocadau Cyffredinol

Wrth gyfeirnodi barn Adfocad Cyffredinol, ychwanegwch opinion of AG [Name] ar ôl cyfeirnod yr achos a choma, a chyn unrhyw binbwynt.

Enghraifft
42 Case C-411/05 Palacios de la Villa v Cortefiel Servicios SA [2007] ECR I- 8531, Opinion of AG Mazak, paras 79-100.

Enghraifft yn y tabl o achosion
Case C-411/05 Palacios de la Villa v Cortefiel Servicios SA [2007] ECR I- 8531, Opinion of AG Mazak

Penderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd

Rhaid cyfeirnodi penderfyniadau’n ymwneud â chyfraith gystadlu a chydsoddiad fel achosion.

Enw’r achos | (rhif achos) | rhif Penderfyniad y Comisiwn | [blwyddyn] | rhifyn OJ L/tudalen gyntaf

 

Enghraifftau
32 Alcatel/Teletra (Case IV/M.042) Commission Decision 91/241/EEC [1991] OJ L122/48.
36 Georg Verkehrsorgani v Ferrovie dello Stato (Case COMP/37.685) Commission Decision 2004/33/EC [2004] OJ L11/17.

Enghraifftau yn y tabl o achosion
Alcatel/Teletra (Case IV/M.042) Commission Decision 91/241/EEC [1991] OJ L122/48.
Georg Verkehrsorgani v Ferrovie dello Stato (Case COMP/37.685) Commission Decision 2004/33/EC [2004] OJ L11/17.

Penderfyniadau Llys Iawnderau Dynol Ewrop

Cyfeirnodwch benderfyniadau Llys Iawnderau Dynol Ewrop (ECtHR) gyda chysondeb drwy gydol aseiniad o blith un o’r cyfresi canlynol:

  • European Court Reports (ECR) neu
  • Reports of Judgments and Decisions (ECHR) neu
  • European Human Rights Reports (EHRR)


Enw achos  | dyfynnu | tudalen gyntaf.

Enghraifft
27 Osman v UK ECHR 1998-VIII 3124.

Enghraifft yn y tabl o achosion
Osman v UK ECHR 1998-VIII 3124

 

Adroddiadau Achosion Llys Iawnderau Dynol Ewrop heb eu Hadrodd

Enghraifft
23 Balogh v Hungary App no 47940/99 (ECtHR, 20 July 2004).

Enghraifft yn y tabl o achosion
Balogh v Hungary App no 47940/99 (ECtHR, 20 July 2004)

Pinbwyntio

I binbwyntio, rhowch goma, ‘para’ neu ‘paras’ a rhif(au) y paragraff(au) mewn cromfachau sgwâr ar ôl cyfeirnod yr achos.

Enghraifft
44 Case C-176/03 Commission v Council [2005] ECR I-7879, paras [47-48].

 

I nodi achosion Llys Hawliau Dynol Ewrop, dilynwch ddyfynnu’r achos gyda choma, ‘para’ neu ‘para/paragraffau’ a rhif(au ) y paragraff mewn cromfachau sgwâr.

Enghraifft
25 Omojudi v UK (2010) 51 EHRR 10, paras [4-1].