Mae sawl ffordd o gynnwys ffynonellau yn eich gwaith. Gallwch grynhoi, aralleirio neu ddyfynnu gwybodaeth yn uniongyrchol. Pa un bynnag a
ddefnyddiwch, rydych yn rhoi gwybod i’ch darllenydd drwy osod y manylion cyfeirnodi mewn ffyrdd cynnil wahanol, fel y gwelir isod.
Ymgorfforwch ddyfyniadau sydd hyd at dair llinell i’ch testun, gyda dyfynodau sengl. Mae dyfyniadau o fewn dyfyniadau byr angen dyfynodau dwbl::
Cyflwynwch ddyfyniadau sy’n hirach na thair llinell mewn paragraff wedi ei fewnoli. Gadewch fwlch llinell i naill ochr a llall y paragraff sydd wedi ei fewnoli. Nid oes angen defnyddio dyfynodau, heblaw am ddyfynodau sengl o gylch dyfyniadau o fewn dyfyniadau.
Ystyr cyfeirnod eilaidd yw pan fyddwch yn darllen testun sy’n cynnwys cyfeiriad gan yr awdur at waith rhywun arall, a chithau am gyfeirio at y gwaith hwnnw yn eich aseiniad. Anogir chi i beidio â gwneud hyn gan y dylech wastad geisio dod o hyd i’r ffynhonnell wreiddiol, y gallwch ei dadansoddi a’i gwerthuso ar ei thermau ei hun.
Os nad yw’n bosibl dod o hyd i’r ffynhonnell wreiddiol, cyfeirnodwch y ffynhonnell yr ydych chi yn bersonol wedi ei darllen yn gyntaf ac wedyn mewn cromfachau, rhowch ‘fel y cyfeirit ato yn/ as cited in’ ac wedyn nodwch y ffynhonnell eilaidd rydych chi wedi ei darllen, gan gynnwys y rhif tudalen.