Skip to Main Content

Cyfeirnodi OSCOLA

This guide is also available in English

Hierarchaeth adroddiadau’r gyfraith

Cyhoeddir llawer o gyfresi o adroddiadau’r gyfraith, ac ystyrir The Law Reports gan yr Incorporated Council of Law Reporting (ICLR) fel yr un fwyaf awdurdodol (AC, QB, Ch, Fam). Byddai cyfreithwyr yn y Llys yn cyfeirio at y gyfres hon o flaen unrhyw un arall, ond yn y byd academaidd, lle gallai sawl fersiwn o’r un adroddiad fod ar gael, dylech gyfeirio at yr un rydych chi wedi ei darllen.

Yr adroddiadau gorau nesaf yw The Weekly Law Reports (WLR) neu’r All England Law Reports (All ER). Gelwir y rhain yn gyfresi adroddiadau cyfraith cyffredinol. Os na fydd penderfyniad ar gael o unrhyw un o’r ffynonellau hyn, yna cyfeiriwch at gyfres arbenigol megis y Criminal Appeal Reports, Industrial Cases Reports ac ati.

Cromfachau – crwn neu sgwâr?

Wrth gyfeirnodi achosion, mae naill ai cromfachau crwn neu sgwâr o gwmpas y flwyddyn. Mae [] yn dangos y flwyddyn yr adroddwyd ar yr achos a bod angen i chi wybod y flwyddyn honno i ddod o hyd i’r achWrth gyfeirnodi achosion, mae naill ai cromfachau crwn neu sgwâr o gwmpas y flwyddyn. Mae [] yn dangos y flwyddyn yr adroddwyd ar yr achos a bod angen i chi wybod y flwyddyn honno i ddod o hyd i’r achos mewn print. Mae () yn dangos nad oes angen dod o hyd i’r gyfrol gywir a’ch bod yn defnyddio rhif y gyfrol i ddod o hyd i’r adroddiad achos o fewn y gyfres.

Cyfeirnodi Achosion Traddodiadol a Niwtral

Mae dau fath o gyfeirnod achos, ‘traddodiadol’ sy’n cynnwys manylion rhif cyfrol brint a rhif tudalen a ‘niwtral’ a ddechreuodd yn 2001 pan fabwysiadodd y Llys Apêl ac wedyn pob is-adran o’r Uchaf Lys ffurf gyfeirnodi sy’n cynnwys manylion rhifau achosion a’r Llys. Nid oes cyfeiriadau
cyfeiriadau at gyfrolau print na thudalennau mewn cyfeirnodau niwtral; maen nhw’n niwtral o ran fformat a chyhoeddwr. Cyflwynwyd y dull hwn o gyfeirnodi er mwyn dod o hyd yn haws i achosion heb eu hadrodd neu drawsgrifiadau o wefannau megis BAILLI.

 

Traditional case citation example

Trefn gyfeirnodi:
Enwau partïon | [blwyddyn] NEU (blwyddyn) | cyfrol | talfyriad achos | tudalen gyntaf neu rif achos | (enw’r Llys wedi ei dalfyrru)

Enghraifft
1 Giles v Thompson [1994] 1 AC 142 (HL).

Enghraifft yn y tabl o achosion
Giles v Thompson [1994] 1 AC 142 (HL)


Cyfeirnodau wedi hynny mewn troednodyn
If you refer to a source more than once in your footnotes and wish to specify a particular page use a pinpoint as follows, for
example, ‘ibid 150’means‘in the same work, but this time at page 150’. 

Enghraifft
5 Giles (n 1) 145.
6 ibid 150.

Pinbwyntio

Wrth binbwyntio o fewn achos, rhoch rifau paragraffau mewn cromfachau sgwâr ar ddiwedd y cyfeirnod. Os nad oes gan y penderfyniad rifau paragraff, rhowch y pinbwynt rhif tudalen ar ôl y Llys.

Enghreifftiau
3 Callery v Gray [2001] EWCA Civ 1117, [2001] 1 WLR 2112 [42].
3 R v Leeds Country court, ex p Morris  [1990] QB 523 (QB) 530.

 

Os yn cyfeirnodi barnwr penodol:

Enghraifft
Arscott v The Coal Authority [2004] EWCA Civ 892, [2005] Env LR 6 [27] (Laws LJ).

Cyfeirnod niwtral

Ar gyfer achosion sydd â chyfeirnod achos niwtral, lle mae gennych y cyfeirnod niwtral a’r cyfeirnod traddodiadol, rhowch y cyfeirnod niwtral yn gyntaf, wedi ei ddilyn gan goma ac wedyn y cyfeirnod ar gyfer yr adroddiad mwyaf awdurdodol.
Enwau’r partïon | [blwyddyn] | Llys | rhif achos, | [blwyddyn] NEU (blwyddyn) | cyfrol | talfyriad yr adroddiad | tudalen gynta

Enghraifft
10 R (Roberts) v Parole Board [2004] EWCA Civ 1031.

Enghraifft yn y tabl o achosion
R (Roberts) v Parole Board [2004] EWCA Civ 1031

Achosion heb eu hadrodd

Os yw achos heb ei adrodd, h.y. heb ei gyhoeddi mewn adroddiad cyfraith print, nodwch y cyfeirnod niwtral os yw ar gael. Os nad yw hwnnw ar gael, cyfeirnodwch fel a ganlyn.

Enwau partïon | (Llys, dyddiad y penderfyniad)

Enghreifftiau
7 Calvert v Gardiner [2002] EWHC 1394 (QB).
9 Stubbs v Sayer (CA, 8 November 1990).

Enghreifftiau yn y tabl o achosion
Calvert v Gardiner [2002] EWHC 1394 (QB) 
Stubbs v Sayer (CA, 8 November 1990)

Achosion cyn 1865

Cyhoeddwyd achosion a gynhaliwyd cyn 1865 mewn amrywiaeth o gyfresi adrodd a enwyd ar ôl yr adroddwr cyfraith unigol.
Gelwir nhw’n ‘adroddiadau enwebai’. Mae’r adroddiadau hyn ar gael mewn print yn y llyfrgell yn CAT.5 ac yn Lexis a Westlaw yn ffurf brint yr ‘English Reports’.

Enwau partïon | (blwyddyn) | cyfrol |talfyriad adroddiad enwebai | tudalen gyntaf, |cyfrol | talfyriad English Report | tudalen gyntaf

Enghraifft
1 Boulton v Jones (1857) 2 H&N 564, 157 ER 23.


Os oes pinbwynt, defnyddiwch hanner colon ar ôl y rhif tudalen, i wahanu’r cyfeirnod at yr adroddiad enwebai a’r English Report.

Enghraifft
4 Henly v Mayor of Lyme (1828) 5 Bing 91, 107; 130 ER 995, 1001.

Traethawd cyfraith droseddol

R v Smith yn troi’n Smith (mewn traethawd cyfraith droseddol, ond mewn traethawd ar faes arall, rhestrwch dan ‘R’, gwnewch hyn hefyd ar gyfer achosion adolygiadau barnwrol fel y parti enwir gyntaf.)

Tabl Achosion

Mae cyfeirnodau achosion yn cael eu rhoi yn y troednodiadau, ond sylwer nad yw enwau achosion yn cael eu hitaleiddio mewn tablau achosion a dylent ymddangos yn nhrefn yr wyddor o’r gair arwyddocaol cyntaf.

Note: no full stops or pinpoints are included for any source in a Table.

Enghraifftau
Boulton v Jones (1857) 2 H&N 564; 157 ER 232
Calvert v Gardiner [2002] EWHC 1394 (QB)
Edwards v Skyways [1964] 1 All ER494
Giles v Thompson [1994] 1 AC 142 (HL)
Henly v Mayor of Lyme (1828) 5 Bing 91, 107; 130 ER 995, 1001
R (Roberts) v Parole Board [2004] EWCA Civ 1031, [2005] (QB)
Stubbs v Sayer (CA, 8 November 1990)
Tweddle v Atkinson [1961] 1 B & S 393; 121 ER 762 (QB)