awdur, | teitl | (argraffiad, | cyhoeddwr | blwyddyn)
Os oes mwy nag un awdur, mewnosodwch ‘and’ cyn enw’r awdur olaf.
Awdur a/ac awdur, | teitl |(gwybodaeth ychwanegol, |argraffiad,| cyhoeddwr | blwyddyn)
Os oes mwy na thri awdur, rhowch enw’r awdur cyntaf ac wedyn ‘and others’.
Awdur and others, | teitl |(gwybodaeth ychwanegol, |argraffiad,| cyhoeddwr | blwyddyn)
Os nad oes awdur, cyfeirnodwch y golygydd yn yr un ffordd ag awdur, gan ychwanegu mewn cromfachau ar ôl yr enw ’(ed)’ neu ’(eds)’ os oes mwy nag un.
Pan fo llyfr yn cynnwys penodau wedi eu hysgrifennu gan nifer o wahanol awduron, wedi eu casglu ynghyd gan olygydd, cyfeirnodwch awdur y bennod a theitl y bennod mewn dyfynodau sengl, wedyn rhowch ePan fo llyfr yn cynnwys penodau wedi eu hysgrifennu gan nifer o wahanol awduron, wedi eu casglu ynghyd gan olygydd, cyfeirnodwch awdur y bennod a theitl y bennod mewn dyfynodau sengl, wedyn rhowch enw’r golygydd, teitl y llyfr mewn italig a’r wybodaeth gyhoeddi.
>>Yn y Llyfryddiaeth, cyfeirnodwch y llyfr fel cyfanwaith, gan hepgor manylion y bennod unigol.
Awdur y bennod, | ‘teitl y bennod’ | yn golygydd (gol/ed), | teitl y llyfr | (gwybodaeth ychwanegol, | cyhoeddwr | blwyddyn)
E-lyfr sydd ar gael yn electronig yn unig, dylai eich dyfyniad ddod i ben gyda'r cyfeiriad gwe a dyddiad cyrchu.
Cyfeirnodwch wyddoniadur yn yr un ffordd â llyfr, ond hepgorwch yr awdur/golygydd a’r cyhoeddwr a rhowch rif yr argraffiad a’r flwyddyn gyhoeddi neu ailgyhoeddi. Daw pinbwyntiau at gyfrolau a pharagraffau ar ôl y wybodaeth gyhoeddi.