Skip to Main Content

Cyfeirnodi OSCOLA

This guide is also available in English

Cyfeirnodi Statudau (Deddfau Seneddol)

Cyfeirnodwch Ddeddf drwy nodi’r teitl byr a’r flwyddyn, hepgorwch y ‘the’ ar ddechrau teitl.

Os ydych yn defnyddio’r teitl byr a’r flwyddyn i gyfeirio at y Ddeddf yng nghorff eich gwaith, nid oes angen i chi greu troednodyn gan fod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar y darllenydd am y ffynhonnell yn y testun yn barod. Fodd bynnag, os nad ydych yn cynnwys teitl llawn y Ddeddf neu’r adran berthnasol yn eich testun, cyfeirnodwch fel y dangosir isod.

Enghraifft
21 Gambling Act 2005.
Enghraifft yn y tabl deddfwriaeth
Gambling Act 2005

Pinbwyntio

Gair Byrfoddau
part/parts  pt/pts
section/sections s/ss
subsection/subsections sub-s/sub-ss
paragraph/paragraphs  para/paras
schedule/schedules sch/schs
regulation/regulations reg/regs
rule/rules r/rr
article/articles art/arts

I gyfeirio at ran, adran, is-adran, paragraff, is-baragraff neu atodlen, neu fwy nag un o’r elfennau hyn, cyfeirnodwch fel a ganlyn:

Enghraifft
9 Consumer Protection Act 1978, s 2.
18 Human Rights Act 1998, sch 1 pt 1.
15 Eggs and Chicks (England) Regulations 2009, SI 2009/2163, reg 7(2).

Biliau

teitl | Bil HC | (sesiwn) | [rhif]
NEU
teitl | Bil HL | (sesiwn) | rhif

Enghraifft
3 Consolidated Fund HC Bill (2008-09) [5].

Enghraifft yn y tabl deddfwriaeth
Consolidated Fund HC Bill (2008-09) [5]


I gyfeirnodi rhan o Fil, defnyddiwch ‘cl’ neu ‘cls’ ac wedyn rhif(au) y cymal(au).

Enghraifft
6 Academies HL Bill (2010-11) 1, cl 8(2).

Cyfeirnodi Is-ddeddfwriaeth

Cyfeirnodwch Offeryn Statudol (SI) drwy nodi’r enw, y flwyddyn a’r rhif; hepgorwch y ‘the’ ar ddechrau teitl.

Trefn gyfeirnodi:

enw | blwyddyn, | rhif SI

Enghraifft
12 Gambling Act 2005 (Amendment of Schedule 6) Order 2012, SI 2012/1633. 

Enghraifft yn y tabl deddfwriaeth
Gambling Act 2005 (Amendment of Schedule 6) Order 2012, SI 2012/1633


Os ydych yn defnyddio’r enw a’r dyddiad i gyfeirio at yr Si yng nghorff eich gwaith, nid oes angen i chi greu troednodyn gan fod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar y darllenydd am y ffynhonnell yn y testun yn barod.

Deddfwriaeth Gymreig

Welsh Acts (Post 2011)

Dyfynnir Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan deitl byr a blwyddyn a ddilynir gan rif Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dccc os ydych yn dyfynnu yn Gymraeg neu anaw os ydych yn dyfynnu yn Saesneg). I ddyfynnu rhan benodol o'r Ystatud defnyddiwch s neu  ss (adran neu adrannau), Pt (Rhan) neu Sch a para (Atodlen a pharagraff).

enw | blwyddyn | (dccc neu anaw) 

Enghreifftiau
Human Transplantation (Wales) Act 2013 (anaw 5).
Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (dccc 5).

Enghraifftau yn y tabl deddfwriaeth
Human Transplantation (Wales) Act 2013 (anaw 5)
Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (dccc 5)


Mesurau Cymreig (Cyn 2011)

Mesurau Cymreig oedd deddfwriaeth sylfaenol Cynulliad Cymru, cyn Diwygiad 2011 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

enw | blwyddyn | (rhif nawm neu mccc)

Enghreifftiau
Learner Travel (Wales) Measure 2008 (nawm 2).
3 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).

Enghraifftau yn y tabl deddfwriaeth
Learner Travel (Wales) Measure 2008 (nawm 2)
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)