Skip to Main Content

Cyfeirnodi OSCOLA

This guide is also available in English

Gwallau cyffredin

  • Dim atalnodau llawn ar ddiwedd pob troednodyn >> Ateb: mae gan bob troednodyn atalnod llawn.
  • Lleoliad ar y marciwr troednodyn >> Ateb: gosod marcwyr troednodiadau ar ôl unrhyw atalnodi. Er enghraifft: mae actus reus yn egwyddor a ymleddir.1  
  • Dyfynnu popeth fel gwefan >> Ateb: gwirio a ydych yn edrych ar erthygl, llyfr, achos, tudalen we.
  • Italig >> Ateb: dim ond teitlau llyfrau, papurau gorchymyn, teitlau adroddiadau Comisiwn y Gyfraith, teitlau adroddiadau pwyllgorau dethol a thudalennau gwe sydd mewn italig mewn troednodiadau a thablau a llyfryddiaeth. Dim ond mewn troednodyn y mae enwau achosion mewn italig.
  • Cyfeiriadau wedi'u hailadrodd (ibid ac n) >> Ateb: gwiriwch y canllaw hwn. 
  • Beth sy'n mynd yn y llyfryddiaeth ar y diwedd a'r tablau ar y dechrau >> Ateb: gwiriwch y canllaw hwn. Yn gyffredinol, mae ffynonellau cynradd mewn tabl ar ddechrau eich aseiniad, tra bod ffynonellau eilaidd yn mynd ar ddiwedd eich aseiniad.  
  • Enw'r awdur mewn troednodiadau a llyfryddiaeth/tablau >> Ateb: troednodyn: John Smith neu J Smith // llyfryddiaeth neu Dabl: Smith J
  • Pwrpas troednodiadau >> Ateb: mae troednodiadau naill ai'n arwain darllenwyr at gyfeiriadau penodol neu'n ychwanegu rhagor o wybodaeth neu esboniad. Dylech ategu eich datganiadau gyda thystiolaeth, felly mae angen troednodiadau pryd bynnag y byddwch yn cyflwyno tystiolaeth neu syniadau.