Rhowch y flwyddyn gyhoeddi mewn cromfachau crwm pan fo rhif cyfrol ar wahân; mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o gyfnodolion. Dim ond tudalennau yn dechrau gyda thudalen 1 ar gyfer pob cyhoeddiad mewn cyfrol y dylech cynnwys rhif Rhowch y flwyddyn gyhoeddi mewn cromfachau crwm pan fo rhif cyfrol ar wahân; mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o gyfnodolion. Dim ond tudalennau yn dechrau gyda thudalen 1 ar gyfer pob cyhoeddiad mewn cyfrol y dylech cynnwys rhif cyhoeddi. Os felly rhowch y rhif cyhoeddi mewn cromfachau yn syth ar ôl y rhif cyfrol. Os yn cyfeirnodi’r erthygl gyfan, rhowch rhif y dudalen gyntaf yn unig.
awdur, | ‘teitl yr erthygl’ | (blwyddyn) | cyfrol | enw neu dalfyriad y cyfnodolyn | tudalen gyntaf yr erthygl
[NEU]
awdur, | ‘teitl’ | [blwyddyn] | enw neu dalfyriad y cyfnodolyn | tudalen gyntaf yr erthygl
Defnyddiwch dalfyriad safonol ar gyfer teitl y cyfnodolyn, gellir gweld y rhain yn y Cardiff Index to Legal Abbreviations.
Os mai dim ond ar-lein y mae’r cyfnodolyn yn cael ei gyhoeddi, heb fersiwn brint gyfatebol, neu os yw’r fersiwn rydych chi wedi ei darllen o’r erthygl ar-lein heb rifau tudalennau neu elfennau eraill, cyfeirnodwch fel yn yr enghraifft ganlynol.
awdur, | ‘teitl’ | blwyddyn | cyfrol| enw neu dalfyriad y cyfnodolyn |<cyfeiriad gwe> | dyddiad cyrchu
Pan fo gan y rhain deitlau, ymdriniwch â nhw yn yr un ffodd ag erthyglau o gyfnodolion (gweler uchod), pan nad oes teitl, defnyddiwch enw’r achos mewn italig yn lle ac ychwanegwch ‘note’ ar ddiwedd y cyfeirnod. Os na roddir awdur, dechreuwch y cyfeirnod gyda theitl y sylwad achos os rhoddir un neu enw’r achos.
Awdur, │ 'teitl' │enw'r papur newydd │ (dinas cyhoeddi, │ dyddiad cyhoeddi) │tudalen y mae'r erthygl wedi'i chyhoeddi arni (os yw'n hysbys)
Awdur, │ 'teitl' │enw'r papur newydd │ (dinas cyhoeddi, │ dyddiad cyhoeddi) │ <URL> │ dyddiad cyrchu
Sylwch mai dim ond ar-lein y mae rhai papurau newydd a chylchgronau ar gael, fel y BBC neu HuffPost, ond gellir eu trin fel papurau newydd o hyd.