Bydd y canllaw hwn yn helpu myfyrwyr a staff i archwilio ystod o dechnolegau AI ac ystyried sut y gallai'r technolegau hyn effeithio ar eu harferion addysgu a dysgu.
Nod y canllaw hwn yw egluro pwysigrwydd cyfeirnodi, ynghyd â dangos sut i fformatio cyfeirnodau yn seiliedig ar arddull OSCOLA. Mae’n defnyddio enghreifftiau o rai o ffynonellau mwyaf poblogaidd cyfraith y DU a’r UE, ac yn dangos y confensiynau sydd ynghlwm wrth ysgrifennu academaidd am y Gyfraith. Mae’n bwysig bod gwaith cwrs, megis traethodau, sy’n cael eu cyflwyno gan holl fyfyrwyr y gyfraith a phob myfyriwr sy’n dilyn modiwlau yn y gyfraith yn rhan o ddisgyblaeth arall i’w hasesu yn Ysgol y Gyfraith, yn dilyn yr enghreifftiau a nodir yn y canllaw hwn.
Dangos mewn aseiniadau eich bod wedi defnyddio deunydd na chrëwyd yn wreiddiol gennych chi yw cyfeirnodi. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ffeithiol, data, delweddau, barn, dyfyniadau uniongyrchol, neu pan fyddwch yn crynhoi neu’n aralleirio gwaith pobl eraill.
Mae’r rhan fwyaf o aseiniadau academaidd yn mesur eich gallu i ddeall, dadansoddi a gwerthuso gwaith pobl eraill. Mae’n bwysig cofio bod cyfeirnodi, fel mater o bolisi gan Ysgol y Gyfraith, yn cyfrif am ganran (5% ar hyn o bryd) o farc cyffredinol aseiniad, ac os gwneir yn gywir bydd yn cyfrannu at eich marc a’ch llwyddiant academaidd.
O ganlyniad, mae cyfeirnodi’n allweddol gan ei fod yn rhoi gwybod i’r darllenydd am y testunau rydych wedi eu defnyddio yn ystod eich ymchwil. Mae ansawdd a pherthnasedd y ffynonellau hyn hefyd yn rhan o’r asesiad. Wrth ysgrifennu aseiniadau mae’n bwysig cyfeirnodi pob ffynhonnell y cyfeirir ati mewn ffordd glir a chyson. Mae hyn yn dangos eich bod wedi ystyried gofynion y darllenydd gan ei fod yn ei alluogi i wirio’r awdurdodau cyfreithiol rydych wedi cyfeirio atynt a dilyn y dadleuon neu’r gosodiadau rydych wedi eu cynnig.
Mae cyfeirnodi ffynonellau gwreiddiol yn rhoi prawf awdurdod ac yn galluogi’ch darllenydd i ffurfio barn ar gryfder yr awdurdod
Mae ffynonellau eilaidd (llyfrau ac erthyglau o gyfnodolion fel arfer) yn rhoi esboniadau, sylwadau ac adolygiadau ar y ffynonellau cyfraith gwreiddiol ac maent yn gallu argyhoeddi, ond nid cyfraith mohonynt.
Mae osgoi llên-ladrad yn agwedd bwysig ar uniondeb Academaidd. Llên-ladrad yw pan fydd person yn ceisio trosglwyddo gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith pobl eraill yn cael ei gydnabod a'i gyfeirio'n iawn.
Mae gan y Brifysgol dudalen gyda gwybodaeth ac Arweiniad ar gamymddwyn academaidd ac uniondeb academaidd, gan gynnwys gwybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da.